databas cerddi guto'r glyn

Hela


Roedd hela yn un o'r gweithgareddau pwysicaf ym mywyd yr uchelwr ac roedd trefn benodol i helfa a’i gwnâi’n weithgaredd seremonïol ac arwyddocaol. Ceir llu o gyfeiriadau at hela yn y drydedd ganrif ar ddeg yng Nghyfraith Hywel Dda.
A falconer with his bird yn Peniarth MS 28, f.9r, the Law of Hywel Dda (Digital Mirror).
A falconer in the Welsh Law
Click for a larger image
Yno enwir dau o swyddogion pwysig helfa: yr hebogydd a’r pencynydd, a oedd yn uchel ar y rhestr o swyddogion y llys. Mae hela hefyd yn amlwg yn rhai o’r chwedlau brodorol megis ‘Pwyll Pendefig Dyfed’, a chofier bod tair o’r ‘Pedair Camp ar Hugain’ yn ymwneud â hela. At hynny, mae testun o’r unfed ganrif ar bymtheg a enwir ‘Y Naw Helwriaeth’ yn adleisio rhai o reolau’r cyfreithiau, yn ogystal ag ymgorffori deunydd o ffynonellau Ffrengig a Seisnig gan gynnwys ‘The Boke of St Albans’.[1] Fodd bynnag, y farddoniaeth a rydd y disgrifiadau mwyaf manwl o’r diwylliant materol a oedd yn ymwneud â hela yng Nghymru’r Oesoedd Canol, yn arbennig y cerddi sy’n gofyn ac yn diolch am offer hela, helgwn a gweilch. Yn wir, fel y nododd Bleddyn Huws, mae modd cysylltu nifer fawr o’r gwrthrychau a erchir yn y cywyddau gofyn â hela, gan adlewyrchu ei statws fel un o hoffterau mawr y bendefigaeth.[2]

Roedd amryw greaduriaid yn cael eu hela, ond mae’n debyg mai hela ceirw â chŵn a hela adar â gweilch oedd y gweithgareddau uchaf eu bri. Roedd nifer o reolau ynglŷn â pha bryd oedd yr adeg gywir i hela rhai anifeiliaid, a phwy oedd yn cael hela mewn parciau a fforestydd penodol. Er enghraifft, ymddengys mai tymor hela hyddod yn Lloegr oedd 24 Mehefin hyd 14 Medi; a 14 Medi hyd 2 Chwefror ar gyfer ewigod.[3] Roedd hela y tu allan i’r adegau hyn yn anghyfreithlon. Rhaid cofio hefyd fod fforestydd Cymru wedi eu hen drawsfeddiannu gan y Goron a barwniaid Lloegr erbyn y bymthegfed ganrif. Ceir achosion o Gymry yn derbyn caniatâd i hela mewn fforestydd.[4]

Bibliography

[1]: W. Linnard, ‘The Nine Huntings: A Re-examination of Y Naw Helwriaeth’, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 31 (1984), 119-32.
[2]: B.O. Huws, Y Canu Gofyn a Diolch c.1350-c.1630 (Caerdydd, 1998), 65.
[3]: R.B. Manning Hunters and Poachers: A Social and Cultural History of Unlawful Hunting in England 1485-1640, (Oxford, 1993), 23.
[4]: R. Richards, Cymru’r Oesau Canol (Wrecsam, 1933), 162.
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration