databas cerddi guto'r glyn

Offer hela

A hunting scene carved in wood at Saint Melangell Church, Pennant Melangell, c.15th century.
A hunting scene carved in wood
Click for a larger image

Roedd pob math o offer gan yr helwyr yn y cyfnod hwn. Portreedir yr heliwr, ei osgordd a’i offer hela mewn nifer o ddarluniau canoloesol, a'r enwocaf, o bosibl, ar gasgliad o dapestrïau a elwir ‘The Devonshire Hunting Tapestries’ a wnaethpwyd c.1430-50, efallai yn Arras, ac sydd erbyn hyn yn rhan o gasgliadau’r Victoria and Albert Museum.

Nid oes gennym yma yng Nghymru unrhyw dapestri cain tebyg ond mae darluniau o olygfeydd hela wedi goroesi mewn cyfryngau eraill, megis y pren cerfiedig yn Eglwys y Santes Melangell ym Mhennant Melangell sy'n cynnwys llun o heliwr, ei arfau a'i gorn hela. At hynny, mae diddordeb noddwyr a beirdd, gan gynnwys Guto’r Glyn, mewn hela yn golygu bod gennym gyfoeth o dystiolaeth lenyddol.

Y corn hela
Prif rôl y corn mewn helfa oedd cyfathrebu: anfonid negeseuon at eraill trwy ei chwythu, a gallai ei ganu ar adegau anghywir arwain at ddryswch ac oedi ymysg yr helwyr eraill.
Defnyddid corn hela i ganu cyfuniadau o nodau hir, nodau byr a seibiannau gyda’r un traw i bob nodyn.[1] Cenid gwahanol gyfuniadau i gyfleu gwahanol negeseuon i helwyr eraill, megis casglu’r helwyr ynghyd, annog y cŵn i redeg, cyhoeddi i ba gyfeiriad a thros ba dirwedd yr oeddynt yn mynd neu ddynodi unrhyw lwyddiant yn yr helfa.

Cyfansoddodd Guto’r Glyn gywydd i ofyn am gorn hela gan Sieffrai Cyffin o Groesoswallt ar ran Siôn Eutun o Barc Eutun (gw. Diddordebau uchelwyr: Cerddoriaeth: Y corn hela). Crybwyllir cyrn hela hefyd yn ei gywydd dychan sy’n delweddu Dafydd ab Edmwnd fel ewig neu iwrch:

Ymlidiwynt, canwynt y cyrn, 
Iwrch difwyn ni chyrch defyrn. 
Ymlidient, canent eu cyrn,
yr iwrch annymunol nad yw’n cyrchu tafarnau.

(cerdd 66.13-14)


Gallai hela fod yn weithgaredd swnllyd iawn. Yn aml, clywid nid yn unig ganu’r cyrn ond hefyd gyfarth yr helgwn a bloeddiau’r helwyr eu hunain. Credir bod y gair Ffrangeg huer (‘bloeddio mewn rhyfel neu wrth hela’) yn cynrychioli ymgais i efelychu sŵn canu corn â’r llais dynol, ac mai o’r gair hwn y tardda’r gair Saesneg ‘hue’, a geir amlaf yn yr ymadrodd ‘hue and cry’.[2] Gellir cymharu’r cri Hw-a a grybwyllir mewn cerdd o waith Guto’r Glyn sy’n disgrifio milwyr Mathau Goch o Faelor yn ‘hela’ y cadfridog Ffrengig, La Hire:

Heliant goed a heolydd, 
(‘Hw-a La Her!’) fal hely hydd. 
heliant mewn coed a heolydd,
(‘Hw-a La Hire!’) fel hela hydd.

(cerdd 3.39-40)



Y gyllell hela
Defnyddid mathau arbennig o gyllyll, neu setiau o gyllyll, wrth hela, a chyfansoddodd Guto’r Glyn gywydd i ofyn am un o’r rhain gan Gruffudd ap Rhys o Iâl ar ran Siôn Hanmer o Halchdyn a’r Llai. Defnyddir nifer o wahanol eiriau am y gyllell gan gynnwys baslart (cerdd 76.74), cyllell geirw (41), gwaetgnaif ‘ cyllell waedlyd’ (37), wtgnaiff, o’r Saesneg ‘woodknife’ (37) a ’sgïen ‘cyllell, cleddyf byr’ (39). Yn ogystal â’r brif gyllell, mae’n eglur fod dwy gyllell lai wedi’u cario yn yr un wain:

Yn dair y mynnwn eu dwyn: 
Y ddu fawr a’r ddwy forwyn; 
Trillafn yn torri allan, 
Tri hydd ac yntwy a’u rhan. 
Tair ac un yn yr unwain, 
Trindod yr hyddod yw’r rhain; 
Yn dair gyda’i gilydd y mynnwn eu cario:
yr un ddu fawr a’r ddwy forwyn;
tri llafn yn torri allan,
tri hydd, hwy fydd yn eu darnu.
Tair ac un yn yr un wain,
trindod yr hyddod yw’r rhain;

(cerdd 76.67-72)


Ceir hefyd y syniad fod y brif gyllell yn feichiog a chyfeirir at y ddwy arall fel merched ac egin ‘blagur’, gan fynd mor bell â chanmol y tair fel trindod (41-2, 61-74).

Mae tystiolaeth archeolegol a darluniau o Loegr a’r cyfandir yn awgrymu bod cynnwys cyllell neu gyllyll ychwanegol mewn gwain yn eithaf cyffredin. Defnyddid y cyllyll hyn wrth fwyta yn aml, ond yn achos setiau hela fel yr un yng ngherdd Guto y prif bwrpas oedd darparu amrediad o lafnau o feintiau gwahanol i gael eu defnyddio at wahanol ddibenion yn ystod y broses o ddarnio’r anifail.[3] Yn ogystal â chrybwyll hyddod, a ‘rhannu’ hyddod, yn y llinellau a ddyfynnir uchod, mae Guto’n cyfeirio mewn mannau eraill at dorri cig (llinellau 28, 31, 40 a 73), yn galw’r brif gyllell yn elynes hydd (32) ac yn crybwyll ei defnydd gyda phlocyn torri, hyd yn oed:

Yn llem ar ei hysgemydd, 
Yn hir i gymynu hydd. 
yn finiog ar ei blocyn torri,
yn hir i ddarnio hydd.

(cerdd 76.51-2)


Yn ogystal â chael ei galw’n hir yn benodol (52), awgrymir hyd y gyllell gan y gair llath (31), gan y cyfeiriad at fesuro dwy gyllell yn erbyn ei gilydd (35) a chan linellau 53-4: Ar glun fy mhen cun y’i cair, / A disgyn hyd ei esgair ‘Fe’i ceir ar glun fy mhrif arglwydd / yn estyn i lawr hyd ei goes.’ At hynny, ymddengys fod y gyllell yn ddigon llydan i gael ei chymharu ag asgell (43) ac adain eryr (57), ac yn ddigon miniog neu bigfain i gael ei chymharu ag ysgell (‘ysgallen’, 41). Mae’r llinellau canlynol yn dangos bod gan ei llafn gefn ‘tew’, trwm (hynny yw, ei fod yn unfiniog) a’i fod yn grwm:

Tenau ’n ei chorff, tew ’n ei chil, 
A’i gogwydd ar ei gwegil, 
Yn grom iawn, yn grymanaidd, 
Yn blyg fal ewin y blaidd, 
tenau yw ei chorff, tew yw ei chefn,
ac iddi ogwydd ar ei gwegil,
yn grwm iawn fel crwman,
wedi crymu fel ewin blaidd,

(cerdd 76.45-8)


Gallai’r gogwydd yn y darn hwn gyfeirio naill ai at grymedd y llafn neu at ongl amlwg ar ei gefn, nodwedd a welir yn aml ar gyllyll hela ac ar gyllyll unfiniog yn gyffredinol.[4] Ymddengys fod haen o gorn ar garn y gyllell (60), ac mae cyfeiriad Guto ati fel ysgell groesgam (41) yn awgrymu bod ganddi freichiau gard crwm neu anghymesur.[5] Crybwyllir disgleirdeb y gyllell nifer o weithiau, gan ddweud ei bod yn unlliw’r haul (50) a’i chymharu â gwydr a drych (43-4, 59-60).

Nid yw Guto’n crybwyll cyllyll yn aml yn ei gerddi eraill, er ei fod yn cyfeirio at Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais fel dagr y drin ‘dager maes y gad’ (cerdd 14.31).[6] (Aberystwyth, 2013).] Mae’n debyg mai’r hyn oedd ganddo mewn golwg oedd dagr syth â llafn cul, o’r math a wisgid ar y gwregys yn aml ac efallai’n debyg i enghraifft fawr, daufiniog a ddarganfuwyd yn Abertawe.[7]

Arfau eraill
Pan oedd carw wedi diffygio a throi ar ei ymlidwyr ar ôl cael ei erlid gan helwyr a’u cŵn, byddai’n cael ei ladd fel arfer â chyllell, cleddyf, gwaywffon neu fwa a saeth, os nad oedd y cŵn wedi ei ladd eisoes. Dull arall, arbennig o effeithlon, o hela ceirw oedd defnyddio cŵn i’w gyrru tuag at helwyr a oedd yn aros gyda bwâu a saethau mewn man a drefnid ymlaen llaw, a defnyddid bwâu a saethau hefyd ar gyfer hela ysglyfaeth lai, yn enwedig adar.

Yn ôl Guto’r Glyn, roedd angen corn hela ar Siôn Eutun i’w ddefnyddio gyda bwa gŵr (cerdd 99.26), a sonia beirdd eraill hefyd am saethu â bwa wrth hela. Dywed Rhys Goch Eryri, yn ei gerdd ofyn am gyllell, ei fod yn arfer hela ceirw â bwa a milgi buan,[8] ac mae Dafydd ap Gwilym yn cyfeirio at saethu rhygeirw sythynt (‘saethu ceirw gwychion, unionsyth eu hynt’) yn y gerdd ‘Basaleg’, sy’n canmol Ifor Hael ('Dafydd ap Gwilyn.net', 14.36.)

Yn ei gywydd dychan i Ddafydd ab Edmwnd disgrifia Guto helfa ffigurol, ac yntau’n ‘saethu’ cywyddau at y bardd arall:

Gollyngais a saethais i 
Ddoe i Ddacyn ddeuddeci: 
 saith gywydd y saethwyd, 
Ac yno y llas y gown llwyd. 
Gollyngais ddoe ddeuddeg ci ar ôl Dacyn,
a saethais:
saethwyd ef â saith cywydd,
a lladdwyd yno’r gŵn llwyd.

(cerdd 66.15-18)


Am gyfeiriadau Guto at saethu targedau a saethu mewn rhyfel gw. Maes y gad: Arfau: Bwâu a saethau.

Bibliography

[1]: J. Cummins, The Art of Medieval Hunting: The Hound and the Hawk (London, 1988), 160-71.
[2]: Cummins, The Art of Medieval Hunting, 113, 169, a ‘The Oxford English Dictionary’, s.v. hue, v.2 a n.2
[3]: M. de Neergaard, ‘The Use of Knives, Shears, Scissors and Scabbards’, yn J. Cowgill, M. de Neergaard and N. Griffiths, Knives and Scabbards (London, 2000), 55, a gw. rhifau 403, 414, 417, 418, 432, 464, 491; H.L. Blackmore, Hunting Weapons (London 1971), 13-14; 51-9, a H.L. Peterson, Daggers and Fighting Knives of the Western World from the Stone Age until 1900 (New York, 1968), 29, 31, 34-5, 43.
[4]: Blackmore, Hunting Weapons, 12, 50-1, a Cowgill et al., Knives and Scabbards, rhifau 86-7.
[5]: Gw. Blackmore, Hunting Weapons, 12-13, 52, a phlatiau 10-12.
[6]: Gw. ymhellach J. Day, ‘ “Arms of Stone upon my Grave”: Weapons in the Poetry of Guto’r Glyn’, yn B.J. Lewis, A. Parry Owen and D.F. Evans (eds.), [footnote:‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Essays on Guto’r Glyn and Fifteenth-Century Wales
[7]: D. Stewart, ‘A Medieval Dagger and an Iron Missile Point in Swansea Museum’, Bulletin of the Board of Celtic Studies, 31 (1984), 314-18.
[8]: D.F. Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007), 5.11
>>>Anifeiliaid hela
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration