databas cerddi guto'r glyn

Heboca

A falconer riding his horse to show the month of May in a calendar in the 'De Grey Book of Hours', NLW MS 15537C, f.5.
A falconer and his horse
Click for a larger image

Roedd gweilch a hebogau yn greaduriaid gwerthfawr nid yn unig yn yr ystyr eu bod yn gostus i gael hyd iddynt, ond hefyd am fod angen cymaint o ymdrech i’w dofi a’u hyfforddi. Ystyrid bod ganddynt natur ‘nobl’ ac mae cymariaethau rhwng uchelwyr neu arwyr ac adar ysglyfaethus yn gyffredin mewn llenyddiaeth ganoloesol.[1] Mae enghreifftiau niferus mewn barddoniaeth Gymraeg gan gynnwys llawer yng ngherddi Guto’r Glyn, ac yntau’n defnyddio’r geiriau gwalch neu hebog yn aml wrth gyfeirio at noddwr (e.e. cerdd 2.26, cerdd 7.34, cerdd 9.8, cerdd 11.21). Gelwir Guto ei hunan yn walch cywyddau gwŷr mewn cywydd o waith Llywelyn ap Gutun (cerdd 65a.42).

Yn ‘The Boke of St Albans’, a argraffwyd yn 1486 ac a briodolir i Juliana Berners, mae rhestr dra adnabyddus o amryw fathau o adar, wedi eu trefnu yn ôl statws cymdeithasol y sawl a gâi hela â hwy, gan dechrau â’r eryr a oedd yn ‘perthyn’ i ymherodr, a hebog chwyldro (‘gyrfalcon’) brenin yn dod yn ail. Ond er bod y rhestr hon yn adlewyrchu arwyddocâd arbennig adar ysglyfaethus ym meddyliau pobl ganoloesol, ni ddylid ei deall yn llythrennol: mewn gwirionedd, y hebog tramor cyflym, ffyrnig a ‘nobl’ a werthfawrogid fwyaf gan hebogwyr proffesiynol a bonheddig fel ei gilydd.[2]

Yn ôl Cyfraith Hywel Dda roedd gan yr hebogydd neu’r penhebogydd statws arbennig yn llys brenin Cymreig. Fe’i henwir yn bedwerydd neu’n bumed yn rhestr swyddogion y llys, naill ai uwchben neu islaw’r ynad llys, a nodir telerau arbennig o ffafriol mewn perthynas â’i geffyl, ei fwyd a’i ddiod, a’i le wrth y bwrdd.[3] Mae’r cyfreithiau’n crybwyll, hefyd, werth gwahanol adar ysglyfaethus megis hebog, hwyedig (sef hebog llai, gwrywaidd, mae’n debyg), gwalch (efallai’n cyfeirio’n benodol at osog), a llamysten (gwalch glas).[4]

Roedd gweilch a hebogau yn anrhegion poblogaidd o fewn y gymdeithas uchelwrol ac yn destun nifer o gywyddau gofyn, gan gynnwys un a ganodd Guto’r Glyn i Huw Bwlclai o Fiwmares ar ran Risiart Cyffin, deon Bangor. Cyfeirir at yr aderyn fel gwalch (cerdd 60.39, 57) a gosawg (43), crybwyllir ei big cam (39) a gwrthgyferbynnir y glwyd (perc) y mae’n gorffwys arni â’r parc lle mae’n hela (44). Mae’r bardd yn rhoi’r sylw mwyaf, fodd bynnag, i gymharu crafangau’r aderyn â’r llaw fanegog y mae’n eistedd arni, gan bwysleisio ffyrnigrwydd y ddau:[5]

Ar fwlch tŵr a fu walch teg 
Fwy ei ’winedd ar faneg? 
Ewin y mab a wna ’m Môn 
Waed i’r gwellt adar gwylltion: 
Y bwn neu ŵydd byw ni ad, 
Na chrŷr, na chyw yr hwyad. 
Pig a llaw debig, lle dêl, 
I grafanc gŵr o ryfel. 
Dau bigog a dybygwn, 
Dwrn Huw a’r aderyn hwn. 
A fu erioed walch teg ar fwlch y tŵr
ag ewinedd mwy ar faneg?
Ewin y mab a wna i waed adar gwylltion
lifo i’r gwellt ym Môn:
ni chaniatâ i aderyn y bwn neu ŵydd fyw,
na chrëyr, na chyw’r hwyaden.
Pig a llaw yn debyg, lle bynnag y daw,
i grafanc rhyfelwr.
Dau beth pigog a gymharwn,
dwrn Huw a’r aderyn hwn.

(cerdd 60.45-54)


Yn ei astudiaeth ar heboca yn y cywyddau, awgryma A.H. Williams mai hebog tramor oedd yr aderyn hwn, gan gymharu cyfeiriad Guto at dŵr (45) â’r ymadrodd Saesneg ‘hawk of the tower’ sy’n cyfeirio at fath o hediad sy’n nodweddiadol o hebogiaid (dadleua fod y gair gosawg, a ddefnyddir yn y gerdd, yn gallu cyfeirio at hebog tramor yn ogystal â gosog yn yr Oesoedd Canol).[6]

Mae’n ddiddorol nodi bod dau o’r adar a grybwyllir fel prae yng ngherdd Guto, sef y crëyr ac aderyn y bwn, ymhlith y tri ‘aderyn enwog’ a grybwyllir yn y cyfreithiau Cymreig, ynghyd â’r gylfinir neu’r aran.[7] Crybwyllir y crëyr, y gylfynir a’r aran hefyd mewn llawysgrif o’r unfed ganrif ar bymtheg, Peniarth 147, ymhlith danteithion ffest reial (‘gwledd frenhinol’).[8]

Bibliography

[1]: J. Cummins, The Art of Medieval Hunting: The Hound and the Hawk (London, 1988), 223-4.
[2]: R. Hands (ed.), English hawking and hunting in 'The boke of St Albans' (London, 1975); Cummins, The Hound and the Hawk, 187-91, a R. Almond, Medieval Hunting (Stroud, 2003), 43-7.
[3]: D. Jenkins, ‘Hawk and Hound: Hunting in the Laws of Court’ yn T.M. Charles-Edwards, M.E. Owen and P. Russell (eds.), The Welsh King and his Court (Cardiff, 2000), 255-80 (262-4).
[4]: D. Jenkins, ‘Hawk and Hound’, 264-5.
[5]: Trafodir delweddaeth debyg mewn cerddi eraill yn A.H. Williams, ‘Y Cywyddwyr a’r Gweilch’, Dwned 15 (2009), 57-92 (72-6).
[6]: Williams, ‘Y Cywyddwyr a’r Gweilch’, 65-6.
[7]: D. Jenkins, ‘Hawk and Hound, 262-3, a gw. ymhellach Williams, ‘Y Cywyddwyr a’r Gweilch’, 69-72.
[8]: D. Jenkins, ‘Hawk and Hound, 263, a T. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926), xxiii-xxiv (n. 7).
<<<Helgwn      
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration