databas cerddi guto'r glyn

Ffyrdd i wella


Roedd bywyd y cartref yn ystod y bymthegfed ganrif yn ymgais barhaus i gadw draw afiechydon. Credai rhai fod puro’r awyr trwy losgi coed a pherlysiau yn ffordd o wneud hynny a throdd eraill at ddulliau goruwchnaturiol i dderbyn gwellhad. Prin oedd unrhyw wybodaeth am driniaethau i wella'n llwyr ac ychydig a wyddom heddiw am ysbytai yn y cyfnod hwn. Gan fod crefydd yn chwarae rôl mor allweddol, cred y mwyafrif mai bendith Duw oedd y ffordd fwyaf effeithlon i gael bywyd iach.
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration