databas cerddi guto'r glyn

Amaethu


A farmer sowing his seeds to show the month of October in a calendar in the 'De Grey Book of Hours, NLW MS 15537C, f.10 (Digital Mirror).
Sowing in a calendar in the 'De Grey Book of Hours'
Click for a larger image

Ychydig a wyddom am ansawdd amaethyddiaeth yn y bymthegfed ganrif ond diau ei bod, yn gyffredinol, yn amrywio fel heddiw yn ôl ffactorau y tu hwnt i reolaeth yr amaethwr, megis yr hinsawdd a’r economi. Fel arfer, canmol y noddwr am ei allu i aredig a hau y tir a wna'r beirdd. Ynghyd ag amaethwr defnyddid y termau hwsmon, llafurwr ac arddwr am y sawl a oedd yn trin y tir.

Ceir darluniau o’r gweithgareddau a wna’r ffermwyr yn fisol ac yn dymhorol mewn calendrau canoloesol ac mae llawysgrif LlGC 15537C, ‘Llyfr Oriau De Grey’, yn enghraifft wych o galendr o’r bymthegfed ganrif (gw. 'Llyfr Oriau De Grey', y Drych Digidol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru). Yn y mân-ddarluniadau sy’n cyd-fynd â’r misoedd, ceir darluniau o’r ffermwr yn hau yn yr Hydref ac yn pladurio ym mis Mehefin a gellir gweld yn glir y math o offer a ddefnyddid. Gwelwyd offer ffermio yn cael eu defnyddio am y tro cyntaf yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed ganrif a chyda cymorth offer syml fel yr aradr, yn raddol, daeth amaethu ychydig yn haws.
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration