databas cerddi guto'r glyn

Rhyfeloedd y Rhosynnau


‘Rhyfeloedd y Rhosynnau’ yw’r teitl a roddir ar y gwahanol ryfeloedd cartref a ymladdwyd ym Mhrydain o tua chanol pumdegau’r bymthegfed ganrif hyd at esgyniad Harri Tudur i’r orsedd yn 1485. Cynnen fawr rhwng disgynyddion Edward III (a fu farw yn 1377) oedd tarddiad y rhyfeloedd wrth i un gangen o’r teulu gystadlu yn erbyn y llall am Goron Lloegr (gw. Cefndir). Ar ôl colli eu tiroedd yn Ffrainc yn y Rhyfel Can Mlynedd roedd Lloegr yn wlad wedi ei threchu a gwelwyd cryn fai ar y teulu brenhinol. Y brenin ar y pryd oedd Harri VI ac roedd ef mewn safle bregus. Gwaethygodd ei gyflwr meddyliol a gyda gelyniaeth yn cronni ymhlith yr uchelwyr, gwelwyd cyfres o frwydrau yn cael eu hymladd rhwng plaid Iorc a phlaid Lancastr am gyfnod o ddeg mlynedd ar hugain (gw. Llinell Amser).

Bu fyw Guto’r Glyn drwy gyfnod y rhyfeloedd.[1] Canodd i Syr Wiliam Herbert yn ystod cyfnod cyntaf y rhyfeloedd a hefyd i Syr Rhys ap Tomas wedi brwydr Bosworth, yr olaf o’r brwydrau (yn 1485). Bu uchelwyr eraill o Gymru yn brwydro hefyd, rhai i blaid Iorc a rhai i blaid Lancastr, a chan fod rhai ohonynt yn noddwyr beirdd, ceir cyfeiriadau gwerthfawr ym marddoniaeth y cyfnod at y brwydro, gw. Cymru a’r Rhyfeloedd.

Bibliography

[1]: Am drafodaeth bellach gw. H. Fulton, ‘Guto’r Glyn and the Wars of the Roses’ a Rh. Griffiths, ‘Mwy o Gymro na Iorciad’ yn B.J. Lewis, A. Parry Owen a D.F. Evans (goln), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013), penodau 2 a 3.
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration