databas cerddi guto'r glyn

Gwisgoedd

The marriage of Alexander and Darius’ daughter from Peniarth MS 481D, ‘The Battles of Alexander the Great’
Alexander the Great and his wife in their beautiful costumes
Click for a larger image

 Un rhodd fyddaf mewn rhuddaur,
 Un wisg â’r Maharen Aur;
 Un angel wyf yn ’y ngwlad
 A wisg gwrlid o sgarlad.
(cerdd 53.41-44)

Roedd ffasiwn yr un mor bwysig yn yr Oesoedd Canol ag y mae heddiw a’r uchelwyr yn dewis gwisgo’r dillad mwyaf ysblennydd a drud yn arwydd o’u statws. Yn wir, roedd diddordeb yr uchelwyr a’r uchelwragedd mewn tecstiliau a gwrthrychau materol megis ategolion hardd i gwblhau eu gwisgoedd yn cynyddu’n gyflym yn ystod y bymthegfed ganrif.

Mae’r farddoniaeth yn llawn cyfeiriadau at wisgoedd. Roedd rhoddi dilledyn yn anrheg i fardd yn gyfnewid am ei wasanaeth yn arfer boblogaidd yng Nghymru ers sawl canrif. Fel rheol, byddai’r rhodd, megis mantell neu glogyn, yn un werthfawr ddigon. Cafodd Guto’r Glyn rodd o fantell a elwir yn ffaling a dau bwrs gan ei noddwyr ac maent yn cael eu disgrifio’n fanwl iawn ganddo.

Tybed a oedd gan Guto’r Glyn ei hun ddiddordeb arbennig mewn dillad ffasiynol? Yn y cerddi rhyngddo ef a Llywelyn ap Gutun (cerdd 65.39-40) mae Guto yn cyhuddo’i gyfaill o fod eisiau ei weld yn cael ei foddi ger Malltraeth, fel y gallai yntau gael ei ddwylo ar ei fantell!
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration