databas cerddi guto'r glyn

Helgwn

A hound in Peniarth MS 28, f.26r, The Law of Hywel Dda (Digital Mirror).
A hound in one of the Welsh law texts
Click for a larger image

Adlewyrchir rôl bwysig y cŵn hela mewn helfa gan eu hamlygrwydd mewn cywyddau gofyn a diolch. Yn y genre hwn, helgwn yw’r anifail trydydd mwyaf poblogaidd (ar ôl meirch ac ychen), ac fe’u gelwir yn aml yn filgwn neu fytheiaid.[1] Crybwyllir y milgi yn y cyfreithiau Cymreig hefyd, gan wahaniaethu rhyngddo a’r gellgi. Mae’n ymddangos bod y milgi yn debyg i’r math o gi sy’n dwyn yr un enw heddiw, a’r gellgi yn fwy mewn maint ac yn gryfach, tebyg i hyddgi; ond er bod gwerth milgi yn llai mae’n debyg fod ganddo statws arbennig a oedd yn ymwneud â’i goler.[2] Ymddengys fod y bytheiad yn nodedig am ei gyfarth a’i allu i ddilyn ôl anifail drwy ei ogleuo, a math arall o gi a ffroen da ganddo oedd yr olrhead, a barnu o’i enw sy’n cynnwys bôn y ferf olrhain.[3]

Mae’r cyfreithiau yn disgrifio dyletswyddau a breintiau’r pencynydd, sef y prif heliwr neu brif geidwad yr helgwn, ac yntau’n un o swyddogion y llys brenhinol a chanddo gyfrifoldeb dros nifer o gynyddion.[4] Mae’r beirdd diweddarach hwythau’n cyfeirio at gynyddion, a fyddent yn cynorthwyo yn yr helfa yn ogystal â gofalu am y cŵn. Mae cywydd o waith Guto’r Glyn sy’n gofyn i Huw Bwlclai am walch yn dechrau fel hyn:

Milwr a gâr moli’r gwŷdd, 
Merch a chŵn, meirch a chynydd, 
Milwr sy’n caru moliannu’r coed,
merch a chŵn, meirch a heliwr,

(cerdd 60.1-2)


Mewn cerdd arall dywed Guto mai Siân Bwrch a’i gŵr Siôn oedd ‘y ferch orau a’r marchog gorau / i ddarparu ci hela a hebog’ (Gorau merch, gorau marchawg, / I borthi helgi a hawg, cerdd 81.41-2). Mae cywydd Guto i ofyn am gyllell hela yn rhoi awgrym pellach fod uchelwyr yn ymddiddori mewn bridio cŵn yn ogystal â’u cadw a’u defnyddio i hela:

Hely weithian yw d’amcan di, 
Cynhyrchu cŵn a’u herchi; 
Arfer Siôn Hanmer yw hyn, 
Un fwriad awn i Ferwyn. 
Er bwrw cŵn ar Barc Enwig, 
Ba les yw cŵn heb als cig? 
Hela bellach yw dy fwriad di,
magu cŵn a galw arnynt;
arfer Siôn Hanmer yw hyn,
awn ag un bwriad i’r Berwyn.
Er mwyn gollwng cŵn ar Barc Enwig,
pa les yw cŵn heb arf i dorri cig?

(cerdd 76.23-8)


Mae’n ymddangos y gallai Rhobert ab Ieuan Fychan o Goetmor fod wedi bridio helgwn hefyd, am fod Guto wedi cyfansoddi cywydd i ofyn dau filgi blwydd oed ganddo ar ran Sieffrai Cyffin o Groesoswallt. Mae Guto’n cyfeirio atynt fel cŵn (cerdd 100, llinellau 32, 36, 39, 46, 60, 68 a 71) a milgwn (46, 49, 56, 61), ac fel bleiddiau, hyd yn oed (43, 69), efallai er mwyn pwysleisio eu ffyrnigrwydd. Fe’u disgrifir hefyd fel dau gryf (66) a deugawr ‘dau gawr’ (67), a honna’r bardd eu bod yn gorchfygu ceirw (ceirw a faeddant, 57), felly mae’n ymddangos eu bod yn arbennig o fawr a chydnerth.
Medieval floor tile from Whitland Abbey
A hound on a decorative floor tile
Click for a larger image

Dywedir bod ganddynt ganolau main (boliau meinion, 44; archfain, 61) yn ogystal â mynwesau dwfn (Dwy ddwyfron leision i lawr ‘dwy fynwes hir hyd y llawr’, 62). Mae Guto’n rhoi cryn sylw i’w cyflymder, gan ddweud eu bod yn ‘gynt na’r corwynt tuag at y caeriyrchod’ (Cynt no’r corwynt i’r ceiriyrch, 40) ac yn weilch neu genadau gwynt (50). Mae ei gyfeiriadau at goleri neu dyrch y cŵn (36, 39, 52, 61) yn dwyn i gof y pwyslais ar goler y milgi yn y cyfreithiau Cymreig a cheir hefyd gyfeiriad diddorol at eu trin â chrib (68).

Rhoddir sylw arbennig i gotiau’r cŵn yn y gerdd. Dywedir bod ganddynt wallt cyrliog (cyfrodeddwallt, 65) a chrwyn o liw llwydrew gyda blew fel cotwm (crwyn llwydrew / … cotwm yw’r blew, 41-2), ac fe’u cymherir â ‘dau lew a chanddynt flew fel y pared o wiail plethedig’ (Dau lew a’u blew fal y blaid, 63). Cymherir eu cotiau â dillad, hefyd:

Rhoed pilis, rhwydau pali, 
Rhita Gawr ar hyd dau gi, 
Milgwn Ffrainc mal gynau ffris, 
Meudwyaid, mi a’u dewis. 
Rhoddwyd mantell ffwr Rhita Gawr
ar hyd dau gi, rhwydau sidan,
milgwn o Ffrainc fel gynau o frethyn blewog,
meudwyaid, myfi a’u dewisaf.

(cerdd 100.45-8)


A barnu o’r cyfeiriadau at faint, siâp a chotiau’r helgwn, mae’n ymddangos bod Guto’n disgrifio math o filgi mawr â blew garw, neu ryw groesfrid cyffelyb.[5] Roedd ‘milgwn’ yn amrywio o ran eu maint a natur eu cotiau, a byddai rhai ohonynt wedi bod yn ddigon mawr i ‘orchfygu carw’, fel a ddywedir yn y gerdd. Cyfeirir eto at rôl y cŵn yn yr helfa yn y llinell Ni bwyf unSul heb fenswn! (‘na fydded i mi fod yr un Sul heb gig hela!’, 72), a cheir awgrym o rôl ymarferol arall a oedd ganddynt, sef cadw’r ŷd ‘diogelu’r ŷd’ (38). Mae’n ymddangos, felly, y byddent yn lladd neu’n gyrru ymaith geirw neu anifeiliaid eraill a geisiai fwyta cnydau - yn wir, cyfansoddodd Bedo Phylib Bach gerdd yn unswydd ‘i ofyn cŵn i ladd y ceirw a borase’r ûd’.[6]

Mae cyfeiriad at yr helgwn fel deuwas deg (‘dau was teg’, 37) yn adlewyrchu’r angen iddynt fod yn ufudd wrth eu meistr yn ogystal â bod yn ffyrnig tuag at eu prae. Ac mae’n bosibl fod cwpled arall, sy’n dweud eu bod yn ‘ymprydio ar fara a dŵr rhag niweidio dant’ (Crefyddu … / Bara a dŵr rhag briwo dant, 57-8), yn ymwneud â’r arfer o fwydo helgwn ar fara yn unig pan nad oeddynt yn hela.[7]

Crybwyllir rôl cŵn mewn helfa nifer o weithiau yng nghywydd dychan Guto ar Ddafydd ab Edmwnd. Cyfeirir at eu sŵn (ymgyfarth, 53), a cheir awgrym hefyd am eu gallu i gael hyd i ôl prae drwy ei ogleuo:

Syr Rys, a gafas yr ôl, 
Yw’n cynydd yn y canol. 
Syr Rhys, a gafodd y trywydd,
yw’n cynydd yn y canol.

(cerdd 66.49-50)


Yn y cerddi ymryson rhwng Guto a Hywel Dafi defnyddir y syniad o gi sy’n hela un math o anifail yn unig fel trosiad am fardd sy’n canmol yr un noddwr o hyd. Dywed Guto am Hywel:

Y ci ni helio rhag haint 
Onid carw, hwn nid cywraint; 
y ci nad yw’n hela oherwydd rhyw anhwylder
ond y carw, nid hyfedr yw hwn;

(cerdd 20.57-8)


Mae Hywel yn ateb drwy ddweud ei bod yn rhyfedd fod rhai’n newid trywydd drwy hela iwrch ar ôl hela hydd (Helynt iwrch o helynt hydd, / Newidiaw ôl, cerdd 20a.4-5), gan ymhelaethu:

Ymlyniad – llei moliannwyf – 
Ar ôl mab Syr Wiliam wyf. 
Nid af i newidiaw ôl 
Syr Wiliam dros yr eilol. 
Hyddgi da (hawdd ei gadw ef) 
A ddilid yr un ddolef; 
Helgi – lle gallaf ganu mawl –
sy’n ymlid mab Syr Wiliam ydw i.
Nid af i gyfnewid trywydd
Syr Wiliam am unrhyw drywydd arall.
Bydd hyddgi da (hawdd ei gadw ef)
wastad yn dilyn yr un cri;

(cerdd 20a.11-16)


Roedd awduron traethodau canoloesol ar hela hwythau’n anghytuno ynghylch y cwestiwn a oedd hi’n ddoeth cyfyngu helgwn i un math o ysglyfaeth yn unig, felly mae’n anodd dweud pa fardd a gafodd y llaw uchaf yn y rhan hon o’r ymryson![8]


Bibliography

[1]: B.O. Huws, Y Canu Gofyn a Diolch c.1350-c.1630 (Caerdydd, 1998), 65, 231-2.
[2]: D. Jenkins, ‘Hawk and Hound: Hunting in the Laws of Court’ yn T.M. Charles-Edwards, M.E. Owen and P. Russell (eds.), The Welsh King and his Court (Cardiff, 2000), 255-80 (269-71).
[3]: D. Jenkins, ‘Hawk and Hound’, 271-2, a Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950-2002), d.g. olrhead ac olrheiniaf, olrheaf: olrhain.
[4]: D. Jenkins, ‘Hawk and Hound’, 269, 272.
[5]: J. Cummins, The Art of Medieval Hunting: The Hound and the Hawk (London, 1988), 12-13.
[6]: Huws, Y Canu Gofyn a Diolch, 89 (yn dyfynnu o lawysgrif Gwyneddon 1, 77).
[7]: Cummins, The Art of Medieval Hunting, 13 a 26.
[8]: Cummins, The Art of Medieval Hunting, 18-19.
<<<Anifeiliaid hela      >>>Heboca
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration