databas cerddi guto'r glyn

Gynnau


Yn wahanol i’r arfau eraill a grybwyllir yn y farddoniaeth roedd arfau powdr gwn yn gymharol newydd yn amser Guto, am eu bod wedi cyrraedd Prydain, mae’n debyg, yn negawdau cynnar y bedwaredd ganrif ar ddeg. Cymerodd beth amser iddynt ddatblygu’n arfau effeithiol a dibynadwy, ond erbyn cyfnod olaf y Rhyfel Can Mlynedd - pan oedd Guto’r Glyn yn filwr ifanc yn Ffrainc (gw. gyrfa Guto’r Glyn) - roedd gynnau o wahanol feintiau yn cael eu defnyddio’n helaeth ar faes y gad ac mewn rhyfel gwarchae.[1]

Nid yw’n syndod, felly, fod Guto’n cyfeirio at belenni canon neu fain gwns (term sy’n cyfateb i’r Saesneg ‘gunstones’) mewn cerddi sy’n dyddio o’r cyfnod hwn. Mewn cerdd i Fathau Goch, disgrifir ei filwyr fel Main gwns tir Maen ac Aensio (‘pelenni canon tiroedd Maine ac Anjou’, cerdd 3.36), a cheir defnydd trosiadol gwahanol o fain gynnau mewn cywydd arall o waith Guto sy’n disgrifio ‘brwydr’ y beirdd yn erbyn gwin Tomas ap Watgyn:

Pob gwas dewr, pawb a gais da, 
Pob un a ladd pib yna, 
Cydsaethu, iawngu angerdd, 
Gwin coch â main gynnau cerdd. 
Pob bachgen dewr, pawb sy’n ceisio budd,
bydd pob un yn lladd llond casgen yno,
yn saethu gyda’i gilydd, tanbeidrwydd gwir serchog,
win coch â phelenni canon barddoniaeth.

(cerdd 4.53-6)


Defnyddiodd Guto ddelweddaeth y gwn i foli ei noddwyr yn uniongyrchol hefyd. Disgrifiodd Syr Siôn Bwrch fel Maen gwn traws mewn genau trin (‘pelen canon rymus yng nghanol brwydr’, cerdd 80.28), gan gyfeirio mae’n debyg at ei ddull pwerus o ymladd. Yn yr un modd, gall mai canmol milwriaeth y noddwr oedd bwriad Guto wrth ddweud, mewn cerdd ofyn cymod, fod gan Ieuan Fychan ab Ieuan anian gwn (cerdd 106.13), ond efallai fod awgrym hefyd fod gan y noddwr dymer ‘ffrwydol’![2]



Bibliography

[1]: K. DeVries, Guns and men in medieval Europe, 1200-1500 (Aldershot, 2002), 1-15, a K. DeVries and R.D. Smith, Medieval Weapons: an illustrated history of their impact (Santa Barbara, 2007), 196-202.
[2]: Am drafodaeth bellach ar ynnau yn y farddoniaeth gw. D.F. Evans (1998), ‘ “Y carl a’i trawai o’r cudd”: Ergyd y Gwn ar y Cywyddwyr’, Dwned, 4: 75-105.
<<<Tarianau      
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration