databas cerddi guto'r glyn

Bwâu a saethau


Mor gynnar â’r ddeuddegfed ganrif nododd Gerallt Gymro fod gwŷr de Cymru, a Gwent yn enwedig, yn medrus iawn â’u bwâu.[1] Yn ei amser ef roedd arglwyddi o Loegr eisoes wedi dechrau defnyddio saethwyr Cymreig yn eu byddinoedd, a byddai’r arfer hwn yn parhau yn yr Oesoedd Canol diweddarach.[2] Y math pwysicaf o fwa yng Nghymru (a Lloegr) oedd y bwa hir, a wneid fel arfer o un darn o bren ywen, er y gellid defnyddio pren o fathau eraill o goed megis y llwyfen. Wrth gael ei dynnu byddai’r bwa yn ffurfio hanner cylch cyn i’r saeth gael ei ryddhau, a hynny’n galw am gryn ymdrech a nerth gan y saethydd, fel y nododd Guto’r Glyn wrth gyfeirio at fwa o yw neu lwyf a wnâi lafur (cerdd 11.8).

Roedd y bwa hir yn arf pwerus, a’i saethau yn gallu trywanu drwy amrywiol fathau o arfwisg, er bod gwelliannau mewn arfwisg blât yn ystod y bymthegfed ganrif yn golygu bod amddiffyniad pur effeithiol i’w gael i’r sawl a fedrai ei fforddio.[3] Yn y pen draw, ni allai’r bwa gystadlu â phŵer ac effeithlonrwydd cynyddol gynnau llaw. Ond hyd yn oed yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau (yn ail hanner y bymthegfed ganrif) yr arfau a fu’n gyfrifol am y colled mwyaf enbyd o fywydau oedd y bwâu hir niferus a ddefnyddid gan y ddwy ochr.[4] Mae un o gerddi Guto yn cofnodi bod un o’i noddwyr ef, Dafydd ab Ieuan, wedi ei anafu gan ben y saeth (cerdd 69.18), er na ddywed y bardd a ddigwyddodd hyn mewn brwydr ai peidio.

Canmolodd Guto allu noddwr arall, Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd, gyda bwa mewn cerdd o fawl (cerdd 33.4) ac yn y farwnad a ganodd iddo:

Saeth fawr a saethai f’eryr, 
Saethu ’mlaen seithmil o wŷr. 
Byddai fy eryr yn saethu saeth fawr,
saethu’n bellach na saith mil o wŷr.

(cerdd 36.45-6)


Ond nid saethu mewn rhyfel a ddisgrifir yma. Yn hytrach, gêm neu gamp corfforol ydyw, a Harri’n dangos ei sgiliau a’i gryfder wrth dynnu bwa yn yr un modd ag y gwnâi wrth daflu maen trwm. Roedd y bwa yn bwysig fel arf hela hefyd, fel a welir yng ngherdd Guto i ofyn am gorn hela gan Sieffrai Cyffin o Groesoswallt ar ran Siôn Eutun ap Siâms. Yma, dywed y bardd fod angen corn hela ar y fforestwr i gyd-fynd â’i fwa gŵr (cerdd 99.26).

Mewn cyd-destunau trosiadol, fodd bynnag, y gwelir bwâu a saethau amlaf yng ngherddi Guto. Gelwir Huw Bwlclai yn fwa mawr o’r Biwmares (cerdd 60.14), gan gyfeirio efallai at ei sgiliau milwrol neu at ei rym neu’i allu yn fwy cyffredinol, er ei bod yn bosibl hefyd fod y ddelwedd yn ymwneud â haelioni, fel y mae yn sicr yng ngherdd Guto i Siancyn Hafart o Aberhonddu. Yma, disgrifir Siancyn fel bwa o bren ywen da, gan ei gyferbynnu â noddwyr gwael a gyffelybir i fwa a wnaed o frig yw afrywog ir (hynny yw, o gangen anaeddfed, anaddas), ac sy’n sicr o dorri o ganlyniad (cerdd 31.34-40). Duw ei hun sydd wedi ‘anelu’ Siancyn â llinyn haelioni (cerdd 31.41-2), medd Guto, cyn ymhelaethu:

Y saethau aur a saethych 
Yw rhoddion y gweision gwych; 
Dy nodau dianwadal – 
Dy feirdd teg ar dy fwrdd tal. 
Y saethau aur rwyt ti’n eu saethu
yw rhoddion y gweision ysblennydd;
dy dargedau dianwadal
yw dy feirdd teg wrth dy fwrdd uchel.

(cerdd 31.49-52)


Ceir syniad tebyg mewn cerdd arall o waith Guto, lle gelwir Morgan ap Rhosier yn fwa’r glêr (cerdd 18.26), a defnyddir amryw ddelweddau yn ymwneud â saethu mewn cerddi eraill. Yn ei foliant i Wiliam Fychan ap Gwilym o’r Penrhyn cymherir y gwaith anodd o anelu bwa ag anallu dynion i ‘blygu’ ewyllys Wiliam Fychan (cerdd 56.53-6). Ac yn ei gerdd i Rys ap Dafydd o Uwch Aeron, datblygir trosiad estynedig o’r bardd ei hun fel saethydd:

Seythydd wyf, od ymsaethaf 
Saethu nod yn syth a wnaf: 
Saethydd ydwyf, os af ati i saethu
gallaf saethu yn syth at darged:

(cerdd 11.1-2)


Daw’n eglur mai’r noddwr ei hun yw’r targed neu’r nod, a moliant y bardd sy’n cael ei ‘saethu’ ato. Nid bwa go iawn o bren yw neu lwyf sydd gan y bardd (cerdd 11.7), ond yn hytrach:

Y tafawd, arawd eiriau, 
Yw bwa’r gerdd heb air gau, 
Y tafod â’i eiriau huawdl
yw bwa’r gerdd heb air o gelwydd,

(cerdd 11.9-10)


Ceir delweddaeth debyg, hefyd, yng ngherdd Guto i Siôn Edward a Gwenhwyfar o Blasnewydd (cerdd 107.27-32).

Er nad Guto’r Glyn oedd y bardd Cymreig cyntaf i ddefnyddio delweddaeth saethu, diau fod ei brofiad fel saethydd, yn gynnar yn ei yrfa, wedi cyfoethogi ei stôr o drosiadau saethu, a byddai ymwybyddiaeth ei gynulleidfa o’r profiad hwnnw wedi dwysáu eu heffaith.

(Seiliwyd y drafodaeth uchod ar yr ymdriniaeth fanylach yn: J. Day, ‘ “Arms of Stone upon my Grave”: Weapons in the Poetry of Guto’r Glyn’, yn B.J. Lewis, A. Parry Owen and D.F. Evans (eds), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Essays on Guto’r Glyn and Fifteenth-Century Wales (Aberystwyth, 2013).)

Bibliography

[1]: T. Jones (cyf.), Gerallt Gymro: Hanes y Daith trwy Gymru / Disgrifiad o Gymru (1938, Caerdydd), 49-52.
[2]: M. Strickland and R. Hardy, The Great Warbow: from Hastings to the Mary Rose (Stroud, 2011), 82-96, 149-66, 198-7.
[3]: Strickland and Hardy, The Great Warbow, 266-78.
[4]: R. Hardy, Longbow: A Social and Military History (4th ed., Sparkford, 2006), 125-6.
>>>Gwaywffyn
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration