databas cerddi guto'r glyn

Tŷ neuadd

Egryn is a medieval hall-house.
A drawing of the hall at Egryn
Click for a larger image

Tai neuadd heb amddiffyniad oedd y mwyafrif o’r cartrefi brodorol a godwyd yng Nghymru yn ystod y bymthegfed ganrif. Roedd i’r tŷ neuadd un brif ystafell fawr a honno’n agored i’r to (gw. Pensaernïaeth: Cynllun). Rhannwyd y gwahanol fathau o dai neuadd yn dri dosbarth:

tai neuadd o statws arglwyddiaeth gyda neuaddau sylweddol ac iddynt dri bae neu fwy, weithiau gydag adenydd sy’n ffurfio cynllun ‘H’;
tai neuadd yr uchelwyr lleol, fel arfer gyda neuadd o ddau bae gydag ystafelloedd eraill ym mhob pen;
tai neuadd y werin bobl, gyda neuadd un bae rhwng parlwr a beudy; ystyrir mai o’r rhain y datblygodd y ‘tŷ hir’ diweddarach.[1]

Mae’n debygol iawn fod y rhan fwyaf o’r tai yr ymwelodd Guto’r Glyn â hwy yn dai neuadd a oedd yn perthyn i’r ddau ddosbarth cyntaf. Gwyddom fod Cochwillan yn dŷ neuadd sylweddol ac mae hynny’n cyd-fynd â statws ei berchennog, Wiliam ap Gruffudd. Roedd rhai o gartrefi’r esgobion hefyd yn dai sylweddol, megis Plas yr Esgob ym Mangor, ac er bod tai fel yr Hen-blas a Lleweni bellach wedi eu dymchwel neu eu hailadeiladu, ceir digon o dystiolaeth i awgrymu bod y rhain hefyd yn dai neuadd o gryn faint yn ystod oes Guto.[2]

Plas Uchaf, Cynwyd has been dated to 1435.
The interior of a 15th century hall
Click for a larger image
Ond tystiolaeth y cerddi’n unig sydd gennym yn brawf fod rhai o gartrefi’r noddwyr yn dai neuadd. Awgryma Guto a’i gyd-feirdd fod y Faenor yn Aberriw (cerdd 38) [3] a Nannau yn Llanfachraeth (cerdd 49) [4] yn dai neuadd sylweddol (y ddau wedi eu hailadeiladu yn ddiweddarach) ac roedd Moeliwrch yn Llansilin (cerdd 90) hefyd yn dŷ neuadd ysblennydd yn ôl Guto’r Glyn ac Ieuan ap Gruffudd Leiaf.[5]

Bibliography

[1]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (London, 1975 & 1988), 38; R. Suggett & G. Stevenson, Cyflwyno Cartrefi Cefn Gwlad Cymru: Introducing Houses of the Welsh Countryside (Aberystwyth & Talybont, 2010), 35-7, ac E. Wiliam, The Welsh Cottage: building traditions of the rural poor 1750-1900 (CBHC, 2010), 47-8.
[2]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (London, 1975 & 1988), 100.
[3]: A.E. Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992), cerddi 4 a 5; R. Haslam, ‘A Note on the Architecture of Vaynor Park’, Montgomery Collection 65 (1977), 43-46, a R. Silvester & J. Alfrey, ‘Vaynor: A Landscape and its Buildings in the Severn Valley’, yn J. Finch & K. Giles (gol.) Estate Landscapes: Design, Improvment and Power in the Post-Medieval Landscape, (Woodbridge, 2007), 39.
[4]: C. Thomas, ‘The Township of Nannau, 1100-1600 A.D.’, Cylchgrawn Hanes Sir Feirionnydd v (1966), 97-103; M. Vaughan, ‘Nannau’, Cylchgrawn Hanes Sir Feirionnydd iv (1962), 119-21, 207-7, a T.J., ‘Notes on the House of Nannau by Robert Vaughan of Hengwrt, 1649’, Archaeologia Cambrensis ix (1863), 129-33.
[5]: B.O. Huws, ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13 (2007) 97-137.
>>>Tai tŵr a neuaddau llawr-cyntaf
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration