databas cerddi guto'r glyn

Gwaith maen

Cochwillan in Guto's time
Cochwillan
Click for a larger image

Defnyddid pren yn eang iawn i adeiladu yng Nghymru yn ystod yr Oesoedd Canol diweddar ac, fel y nodir gan Richard Suggett, ystyrid fod crefft y saer coed yn fwy cain na chrefft y saer maen.[1] Yn aml, roedd defnyddio coed yn fwy ymarferol gan fod mwy o goed ar gael yng Nghymru a byddai adeiladu tŷ i gyd o garreg yn ddrud ac yn cymryd llawer iawn o amser. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth sy’n awgrymu bod tai fframiau pren yn gyffredin mewn ardaloedd ble’r oedd coed yn brin, megis sir Fôn.[2] At hynny, mae’n debyg i’r Cymry ddewis pren yn hytrach na charreg gan mai carreg oedd gwneuthuriad y cestyll Seisnig.[3]

Tueddid i adeiladu tai o’r statws uchaf gan saer meini. O fewn y tai hyn gan amlaf y ceid y lle tân ar y wal. Carreg felen a ddefnyddid i adeiladu Rhaglan, ac, yn ôl Guto, roedd waliau Colbrwg hefyd y felyn: Ei gaerau yw’r graig eurin (‘Carreg euraid yw ei furiau’, cerdd 22.39). Ond y disgrifiad mwyaf trawiadol o Golbrwg yw fod brics wedi eu defnyddio i adeiladu’r tŵr:

Y tŵr y sydd fal tu’r sêl, 
Ar barc sych, o’r brics uchel. 
Mae’r tŵr fel ochr carchardy,
ar barc sych, wedi ei wneud o frics uchel.

(cerdd 22.3-4)


Roedd Colbrwg felly yn dŷ tŵr, er bod defnyddio brics yn y cyfnod hwn yn anarferol iawn yng Nghymru.[4]

Cyfuniad o garreg a phren oedd y mwyafrif o’r tai gan fod y fframiau pren angen sylfaen cadarn, a defnyddid carreg weithiau ar gyfer y waliau allanol yn ogystal â’r dull traddodiad o blethwaith a dwb (‘wattle and daub’); mae Cochwillan yn enghraifft rhagorol (gw. Gwaith coed).

Byddai muriau allanol tai yn cael eu gwyngalchu yn aml, a gall mai hyn a olygir gan gyfeiriadau Guto at wynder tai megis y Faenor, Llannerch a’r tŷ yn Llandrinio (cerdd 38.44, cerdd 53.39 a cerdd 85.49). Dywed Guto sawl gwaith fod Moeliwrch yn wyn neu’n ddisglair (cerdd 90, llinellau 46, 50, 60, 64 a 67), gan ddweud bod ganddo grys fal y maen grisial (cerdd 90.34) a’i gymharu â’r seren wib a welwyd yn 1402 adeg gwrthryfel Owain Glyndŵr (Neuadd fal seren Owain, cerdd 90.38).[5] Cyfeiria hefyd at liwio’r tŷ (cerdd 90.19) gan ei ddisgrifio’n benodol fel calcheidlys:

Calcheidlys, coeliwch wawdlef, 
Cryswen yw, cares i nef. 
Llys wedi ei wyngalchu’n gwisgo crys wen yw,
coeliwch lef o fawl, cariadferch i nef.

(cerdd 90.45-6)


Hendre'r Ywydd-uchaf is a 16th century farmhouse.
A farmhouse with a thatched roof
Click for a larger image

Llechi
Er mai gwellt a ddefnyddid yn helaeth ar dai’r uchelwyr yn y bymthegfed ganrif,[6] cyfeirir yn achlysurol at deils neu lechi gan y beirdd fel defnydd a ddefnyddid i doi tai eu noddwyr.[7]

Mae Iolo Goch yn crybwyll bod teils wedi eu defnyddio i doi Sycharth, cartref Owain Glyndŵr,[8] a charreg o’r mynydd lleol Cornadon a geid ar do’r tŷ newydd yn Llandrinio, cartref Syr Siôn Mechain, yn ôl Guto’r Glyn:

Cerrig ar frig awyr fry 
Cornatun yn cau’r nawty. 
Meini o Gornatun ar y brig yn yr awyr uchod
yn toi’r naw adeilad.

(cerdd 85.23-4)


Rhydd cerdd arall gan Guto’r Glyn dystiolaeth werthfawr ynghylch un o’r defnyddiau a’r diwydiannau pwysicaf yng Nghymru: y diwydiant llechi cynnar yng Ngwynedd. Canodd gywydd gofyn am lechi neu ystlatys o chwarel heb fod ymhell o aber afon Ogwen ger Bangor, i Rhisiart Cyffin, deon Bangor, ar ran Syr Gruffudd ab Einion o Henllan, ger Dinbych (cerdd 61). Mae Syr Gruffudd yn dymuno cael to llechi yn hytrach na tho gwellt ar ei dŷ newydd gan eu bod yn para’n well:

Er dwyn gwŷr i doi’n gywrain 
Gwellt rhyg mawr gwell y trig main. 
Er dod â gwŷr i doi’n gywrain
gyda gwellt rhyg mawr mae meini’n parhau’n well.

(cerdd 61.3-4)


Mae’n debyg fod angen y teils ar gyfer tŷ a leolid ar y fron rywle yng nghyffiniau Henllan (cerdd 61.1). Disgrifir y llechen fel cerrig Gwynedd, yn graig gaened ac yn dlysau o’r allt (llinellau 10, 17). Yn wir, ymddengys mai o fynyddoedd Eryri y cafwyd y teils:

Toi sy ym bryd tŷ a siambr wen, 
To brig tai Aberogwen, 
Cyfrio llys, caf ar ei lled 
Cerrig Gwynedd, craig gaened. 
Mae’n fwriad gennyf doi tŷ a siambr deg,
to mwyaf rhagorol tai Aberogwen,
gorchuddio llys, caf ar ei led
gerrig o Wynedd, brethyn llwyd craig.

(cerdd 61.7-10)


Mae’n debyg mai chwarel y Cilgwyn yn Nyffryn Nantlle yw’r chwarel hynaf yng Nghymru gan ddyddio mor gynnar a’r ddeuddegfed ganrif. [9] Ond o ba chwarel y daeth teils noddwr Guto’r Glyn? Mai’n debygol mai o chwarel y Penrhyn. Cyfeirir at y chwarel yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg ac yn 1413 ac 1450 derbyniodd rhai o denantiaid Gwilym ap Gruffudd a’i fab, Wiliam Fychan ap Gwilym o’r Penrhyn ym mhlwyf Llandegái, dâl am gloddio yno.[10]

Yn ôl y gerdd, cludwyd y teils o’r mynydd dros y tir i Aberogwen nid nepell i’r dwyrain o Fangor (gw. nodyn llinell 8, cerdd 61). Yna, fe’u rhoid ar long a’u hwylio i’r Fenai ac yna ar hyd yr arfordir i gyfeiriad y dwyrain hyd at aber afon Clwyd (cerdd 61, llinellau 36 a 38). Y tebyg yw mai ar hyd yr afon y cludwyd y teils i Ruddlan ac oddi yno heibio Dinbych ac i gyffiniau Henllan ar hyd afon Elwy neu, yn fwy tebygol, dros y tir (gw. nodyn ar linell 64, cerdd 61). Tebyg iawn yw’r siwrnai a ddisgrifir yng nghywydd Siôn Tudur, lle erchir teils i doi tŷ Meriadog, sef, o bosibl, Plas-yn-cefn ar lannau gogleddol afon Elwy yn Is Aled.[11] Yn wir, mae’r ffaith fod dwy gerdd ofyn am deils o’r tair sydd wedi goroesi wedi eu canu ar gyfer noddwyr yn Is Aled yn awgrymu bod llwybr masnach sefydlog ar y môr rhwng Aberogwen a Rhuddlan erbyn diwedd yr Oesoedd Canol. Tybed, felly, a yw’r cywyddau gofyn am deils yn adlewyrchu’r cynnydd yn y galw am doi llechi yng Nghymru yn y bymthegfed ganrif a’r unfed ganrif ar bymtheg?[12]

Bibliography

[1]: R.Suggett, ‘Creating the Architecture of Happiness in Late Medieval Wales’, yn B.J. Lewis, A. Parry Owen a D.F. Evans (goln), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth, 2013), 393-428 (397-8).
[2]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (London, 1975 & 1988), figs 14a, 38c. Mae gwaith ymchwil gwyddonol diweddar yn awgrymu bod peth o’r pren a ddefnyddid fel gwaith pren strwythurol ym Môn wedi ei fewnforio o Iwerddon, gw. R. Suggett, ‘Creating the Architecture of Happiness’, 397 (n. 7).
[3]: R. Suggett, ‘Cerrig neu Bren: Blaenoriaethau a Rhagfarnau ddiwedd yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar yng Nghymru’, Cerrig Yng Nghymru: Deunyddiau, Treftadaeth a Chadwraeth: Papurau o Gynhadledd Cerrig Yng Nghymru, Caerdydd 2002 / Stone in Wales: Materials, Heritage and Conservation: Papers from the Welsh Stone Conference, Cardiff 2002, gol. M.R. Coulson (Caerdydd, 2005), 70-6.
[4]: A. Emery, Greater Medieval Houses of England and Wales 1300-1500, Vol. 2: East Anglia, Central England and Wales (Cambridge, 1999), 166.
[5]: Gw. ymhellach nodyn esboniadol E. Salisbury ar y llinell hon.
[6]: J. Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry (Newton Abbot, 1974), 19.
[7]: D. Johnston, Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), 171.17-18; R. Suggett, Houses and History in the March of Wales: Radnorshire 1400-1800 (Aberystwyth, 2005), 38.
[8]: D. Johnston, Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988), X.47.
[9]: J. Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry (Newton Abbot, 1974), 18, 314.
[10]: J. Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry (Newton Abbot, 1974), 27.
[11]: E.P. Roberts (gol.), Gwaith Siôn Tudur, 81.47.
[12]: R. Suggett, Houses and History in the March of Wales: Radnorshire 1400-1800 (Aberystwyth, 2005), 144.
<<<Gwaith coed      >>>Gwydr lliw
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration