databas cerddi guto'r glyn

Medd


Diod alcoholaidd a wneir drwy eplesu mêl a dŵr yw medd a dyma un o’r diododd cynharaf y cyfeirir atynt yn y farddoniaeth a hynny gan amlaf fel un symbolaidd a seremonïol.
A section on bees in the Welsh Laws of Hywel Dda, Peniarth 28 MS, f.22r (Digital Mirror).
Bees in the Law of Hywel Dda
Click for a larger image
Dadansoddwyd y cyfeiriadau at fedd yng ngwaith y Cynfeirdd a’r Gogynfeirdd gan Haycock a chasglu bod y ddiod feddwol frodorol hon yn symbylu holl gynhaliaeth y llys yn y cyfnod cynnar. Dywed fod medd yn well na gwin o ran symbolaeth yn y canu cynnar gan mai cynnyrch tir a daear y llwyth ei hun ydoedd.[1] Mae medd yn parhau fel symbol o gynhaliaeth yng ngwaith Guto’r Glyn. Er enghraffit, pan fo un o'i noddwyr cynnar, yr Abad Rhys ap Dafydd yn absennol o abaty Ystrad-fflur, dywed mai Tair blynedd am fedd ym fu ‘i mi mae wedi bod fel tair blynedd o ran [diffyg] medd’ (cerdd 6.46).

Roedd medd canoloesol yn wahanol iawn i’r medd melys modern a welir ar y farchnad heddiw. Yng nghanol yr haf roedd y gwenyn yn cael eu lladd neu eu gyrru i ffwrdd oddi wrth eu cychod gwenyn. Rhoddid gweddillion diliau’r gwenyn mewn twb o ddŵr ac yna aros i’r dŵr amsugno’r mêl. Epelesid y dŵr melys hwn i gynhyrchu diod sych ac iddo flas mêl a elwid yn fedd neu feddyglyn. Ar gyfartaledd roedd pob cwch gwenyn yn cynhyrchu tua thair galwyn o fedd ond yn wahanol i gwrw neu seidr, nid oedd medd yn cael ei yfed mewn meintiau mor helaeth.[2]

Cyplysir medd a mêl yn aml yng ngwaith y beirdd. Wrth ganmol Syr Bened ap Hywel, meddai Guto’r Glyn:

 Medd, cwrw, nis maddau Corwen, 
20Mêl cwyraidd mal y carwn. 
Medd, cwrw, ni wna Corwen hebddynt,
mêl fel cwyr o’r math a garwn.

(cerdd 43.19-20)


Mae’n debyg mai at fedd hefyd y cyfeirir wrth sôn am y perwaith gwenyn ym Mlaen-Tren (cerdd 12.58) a’r gerddi gwenyn yn abaty Glyn-y-groes (cerdd 113, llinellau 21-2 a 25-6).

Cyfeiria Guto at lasfedd ac at fedd glas sy’n awgrymu mai medd ffres oedd y medd gorau. Canmola Guto Rhys ap Dafydd o Uwch Aeron am ei fedd ffres:

 Glasfedd i’w gyfedd a gaf 
 Gan hwn, llawer gwan a’i hyf. 
Medd ffres a gaf i’w yfed
gan hwn, ac mae llawer o ddynion gwan yn ei yfed.

(cerdd 12.5-6)


Ac mae’n debyg i Hywel Dafi gyhuddo Guto o ddweud gormod o fawl i’r medd glas:

Medd ef, myfi a ddyfod 
I’r medd glas ormodd o glod, 
Dywed ef fy mod i wedi dweud
gormod o fawl i’r medd gloyw,

(cerdd 18.7-8)


Meddyglyn
Nid yw’n hawdd gwybod beth oedd y gwahaniaeth rhwng y meddyglyn a’r medd cyffredin ond mae’n bosibl bod meddyglyn yn fath o fedd a oedd â chynhwysion eraill wedi eu hychwanegu ato, megis sbeisys a pherlysiau.[3] Roedd ystyr wahanol iddo o fewn meddyginiaeth yn y cyfnod hwn, sef math o ffisig neu ddiod feddyginiaethol (gw. Meddyginiaeth: Ffyrdd i wella). Dyma un o’r diodydd hynny a fu’n ymladd ym mrwydr y gwinoedd yn llys Tomas ap Watgyn lle yr honnodd Guto ei bod yn ddiod gref, Meddyglyn, meddwai wiwgler ‘Meddyglyn, byddai’n meddwi beirdd gwiw’ (cerdd 4.35). Roedd meddyglyn hefyd yn ddiod a gawsai’r bardd yn abaty Glyn-y-groes gan yr Abad Dafydd ab Ieuan: Cawn feddyglyn gwyn (cerdd 113.21).


Bibliography

[1]: M. Haycock,'Medd a Mêl Farddoni', Beirdd a Thywysogion: Barddoniaeth Llys yng Nghymru, lwerddon a’r Alban, eds. M.E. Owen & B.F. Roberts, (Caerdydd, 2006), 39-59.
[2]: P. Brears, Cooking and Dining in Medieval England, (Totnes, 2008), 107.
[3]: Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950-2002), d.g. meddyglyn, a ‘The Oxford English Dictionary’, s.v. metheglin.
<<<Gwin      >>>Cwrw
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration