databas cerddi guto'r glyn

Cwrw


Câi cwrw ei fragu yn gyson yng nghartrefi'r uchelwyr a cheir digonedd o gyfeiriadau at fragu cwrw yn yr abatai a’r mynachlogydd.[1]
A reproduction of an image from a copy of 'Li livres dou santé' by Aldobrandino of Siena, BL MS Sloane 2435.
A monk drinking from a barrel
Click for a larger image
Gan fod y sawl oedd yn pobi bara a’r sawl oedd yn bragu cwrw angen grawn, dŵr a thanwydd (gan fod angen cynhesrwydd i’r burum weithio), roedd y pobi a’r bragu yn aml yn cael eu gwneud yn yr un ystafell neu mewn ystafelloedd cyfagos. Yn ychwanegol at hynny, roedd bara a chwrw hefyd yn mynd law yn llaw gan mai dyma fwyd a diod fwyaf sylfaenol a beunyddiol y cartref; a chan mai cynnyrch nad oedd yn para ond am ryw wythnos oedd y ddau, roedd yn rhaid eu cynhyrchu’n rheoliadd.

Heddiw, yr unig frag a ddefnyddir, bron, yw haidd ond byddai cwrw canoloesol yn aml wedi ei wneud o gymysgedd o wahanol fathau o frag, megis brag gwenith a heiddfrag. Awgryma Guto’r Glyn fod cwrw iach Tomas ap Watgyn wedi ei wneud o geirch, ceirch o Landdewi Rhydderch, ardal Tomas ap Watgyn ei hun: Cwrw iach o frig ceirch y fro ‘Cwrw da o dywys ceirch y fro hon’ (cerdd 4.37) ac mae’r cyfeiriadau at fragu cwrw gartref hefyd yn ddigon niferus. Gorffennir y cywydd i’r Abad Dafydd ab Ieuan wrth ganmol y brag cartref yn abaty Glyn-y-groes:

Tŷ’r brag iach, tŷ’r bara gwyn, 
Tŷ’r bragod a’r tŵr brigwyn, 
Tŷ’r gweiniaid tew ar ginio, 
Tŷ’r beirdd, a phoed hir y bo! 
tŷ’r cwrw iachus, tŷ’r bara gwyn,
tŷ’r bragod â’r tŵr gwyn ei frig,
tŷ’r gweiniaid tew uwch ginio,
tŷ’r beirdd, a boed iddo fod felly am amser maith!

(cerdd 112.61-4)


Ymddengys i’r gair bragod ddod i olygu math arbennig o gwrw sef diod o frag a wneid gynt drwy eplesu cwrw a mêl ynghyd. Cyfeirir ato yn y Mabinogion ac yng Nghyfraith Hywel Dda. Mae Guto’r Glyn yn cyfeirio at fragod brigwyn yn ei foliant i Ddafydd ap Tomas (cerdd 12.57) ac mae bragod brig yn gyfuniad a welir yn aml yn y farddoniaeth yn y cyfnod hwn sef cyfeiriad, fe ymddengys, at ‘ewyn bragod’.[2] Ymhellach, cyfeiriodd Guto hefyd at fragod brau ‘bragod gwych’ (cerdd 100.4) a gwinau fragod ‘bragod rhuddgoch’ (cerdd 113.21). Meddai am abaty Glyn-y-groes:

 Cawn feddyglyn gwyn a gwinau – fragod, 
 Cawn freugwrf o’r pibau; 
Cawn fedd gwyn a bragod rhuddgoch,
cawn gwrw hael o’r casgenni mawr;

(cerdd 113.21-2)


Mae’r ffaith iddo ddisgrifio lliw orengoch y ffaling neu’r fantell Wyddelig fel Criafonllwyth cwrf unlliw ‘llwyth o aeron criafol, lliw cwrw’ (cerdd 53.58) hefyd yn ategu mai’r lliw dwfn orengoch hwn oedd lliw'r cwrw cartref.

Yn ogystal â chwrw cartref, roedd rhai ardaloedd hefyd yn enwog am eu cwrw da. Mae’n amlwg fod ardaloedd y Gororau a thref Amwythig yn adnabyddus am eu cwrw. Ategir hynny gan Guto’r Glyn wrth iddo gyfeirio at gwrw’r Mars yn ei foliant i Dafydd ap Tomas:

Blinais es pedair blynedd 
Ar gwrw’r Mars; gorau yw’r medd. 
Rwyf wedi diflasu ers pedair blynedd
ar gwrw’r Mers; medd yw’r ddiod orau.

(cerdd 13.15-16)


Canwyd hefyd sawl englyn i’r cwrw ym marddoniaeth yr unfed ganrif ar bymtheg (gw. GST cerddi 243, 244 a 245), a chrybwyllir yn arbennig gwrw Caer, cwrw Caerllion, cwrw Dinbych a chanwyd cywydd cyfan i Aberconwy a’i chwrw (awduriaeth anhysbys, ond fe’i priodolir gan amlaf i Ieuan ap Gruffudd Leiaf).

Bibliography

[1]: D.H. Williams, The Welsh Cistercians (Leominster, 2001), 244.
[2]: Geiriadur Prifysgol Cymru, 307, d.g. bragod; D.F. Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri, 12.11.
<<<Medd      
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration