databas cerddi guto'r glyn

Mentyll


Gwisg allanol a wisgid dros yr ysgwyddau yw mantell ac yn y bymthegfed ganrif, gwisgid gwahanol fathau o fentyll at wahanol ddibenion. Roeddynt yn amrywio cryn dipyn o ran siâp, maint, lliw a defnydd a rhai enwau a ddefnyddiai Guto am wisg fel mantell yw llen, clog, mantell, cwnsallt, simwr, ffaling a pilis. Nid yw’n gwbl eglur os yw’r beirdd yn gwahaniaethu o ran enwau eitemau o ddillad fel mantell, ond mae’n bur debyg mai clogyn teithiol a feddylia Guto gan amlaf wrth gyfeirio at glog a simwr. Roedd rhaid cael mantell drom a chynnes i deithio ym mhob tywydd a mae’n debyg iawn fod y beirdd yn derbyn mentyll fel hyn gan eu noddwyr. Gwisg felly oedd y fantell Wyddeling neu’r ffaling a dderbyniodd y bardd gan Elen ferch Robert Pilstwn (cerdd 53).

Gall mantell olygu gwisg fwy urddasol a wisgid gan uchelwyr ac uchelwragedd ar achlysuron arbennig i ddynodi eu statws. Roedd mentyll felly yn cynnwys ymylwe o frodwaith neu leinin o ffwr a weithiau addurnid hwy â phatrwm herodrol a oedd yn nodweddiadol o’r cyfnod hwn.
The effigies of sir Wiliam ap Tomas of Raglan and his wife, Gwladus, at the Priory Church of St Mary, Abergavenny, middle of the 15th century.
Sir William ap Tomas and Gwladus
Click for a larger image
[1] Rhai o noddwyr enwocaf a chyfoethocaf Guto oedd teulu Rhaglan a disgrifiodd Syr Wiliam ap Tomas fel un a oedd yn uwch na gwyr a chlog euraig sef ei fod yn rhagori ar wŷr eraill mewn dillad o aur (cerdd 19.50). Mae gwisg Syr Wiliam ap Tomas a’i wraig Gwladus i’w gweld ar y gorffddelw ohonynt ym Mhriordy’r Fenni ac mae Gwladus yn gwisgo mantell wedi ei diogelu gyda broetish ar bob ysgwydd. Ceir darlun cyfoes o fab Syr Wiliam ap Tomas hefyd, sef Wiliam Herbert a’i wraig Ann, mewn llawysgrif Fflemaidd a adwenir fel ‘Llyfr Caerdroea’; llawysgrif a gomisynodd Herbert fel rhodd i’r brenin Edward IV. Mae’r ddau yn penlinio o flaen y brenin ac mae mantell Ann yn arbennig yn adlewyrchu ei statws wrth i’r arlunydd ddangos bod ffwr gwyn ar du mewn ei mantell.[2] Wrth gwrs, roedd lliw’r fantell yn hollbwysig i ddynodi statws. Lliwiau llachar fel porffor, gwyrdd, glas a choch oedd y lliwiau mwyaf dewisol ac addas i uchelwr. Digon llwm oedd lliwiau’r clogynnau teithiol gan eu bod o ddefnydd llai safonol.

Gan fod rhoddion o ddillad yn gyffredin iawn rhwng beirdd a noddwyr sonnir weithiau am fantell neu wisg arbennig a gafodd rhai beirdd yng ngherddi ei gilydd. Mae’r menig a gafodd Dafydd ap Gwilym gan Ifor Hael yn cael eu crybwyll ar sawl achlysur (‘Dafydd ap Gwilym.net’, cerdd 15) ac mae Ieuan ap Hywel Swrdwal yn sôn am fantell arbennig a gafodd Guto’r Glyn gan Syr Rhisiart Gethin, milwr proffesiynol a ymladdai yn Ffrainc gyda byddinoedd Lloegr yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd. Mae’n debyg fod y ddau wedi cwrdd pan fu Guto yntau yn gwasanaethu fel milwr yn Ffrainc. Cywydd i ddiolch i Rhisiart ar ran Guto yw’r gerdd a disgrifir yr hug aur fel Mantell Mihangel felyn / y sy glog eos y glyn.[3]

Weithiau, mae gwisg o’r fath yn destun cenfigen mewn cerddi hwyliog, megis y fantell arian neu’r hug o liw, rhywiog len a gafodd Tudur Penllyn ac a wisgodd i ddwyn cariad ei gyd-fardd, Ieuan Brydydd Hir.[4] A thybed ai cenfigen am wisg a gafodd Guto’r Glyn gan un o’i noddwyr sydd wrth wraidd honiad Guto fod Llywelyn ap Gutun eisiau ei glog?

Mewn môr y myn ym orwedd, 
Mae’n chwannog i’m clog a’m cledd; 
Ef a’m crogai, ni wnâi nâd, 
Yn Rhosyr er fy nhrwsiad; 
mae’n dymuno i mi orwedd mewn môr,
mae’n awchus am fy nghlogyn a’m cledd;
ef a’m crogai yn Rhosyr am fy ngwisg,
ni roddai gri;

(cerdd 65.39-42)



Y ffaling, cerdd 53
Cafodd Guto ddilledyn arbennig gan un o’i noddwyr: mantell allanol fawr a thrwchus a elwir yn ffaling. Elen ferch Robert Pilstwn] o’r Llannerch a roddodd y rhodd hwn iddo, a hynny, mae’n debyg, ar ôl iddo ganu cerdd yn gofyn amdani. Mae’n bosibl fod hon yn gerdd a ddatganwyd yn Llannerch, Llŷn, mewn gwledd i ddathlu’r Nadolig neu’r Calan gan fod anrhegu bardd â dilledyn fel calennig yn gyffredin iawn yn y cyfnod hwn (gw. cerdd 53.31).

Mae’n hawdd casglu bod y fantell Wyddelig yn boblogaidd iawn yng Nghymru yn ystod y bymthegfed ganrif gan ei bod yn un o’r prif wisgoedd a erchir fel rhodd gan feirdd y cyfnod.[5] Nid Guto’r Glyn yw’r unig fardd i dderbyn ffaling yn rhodd gan ei noddwr; ceir cerddi hefyd gan rai o’i gyd-feirdd megis Lewys Glyn Cothi a Ieuan Du’r Bilwg. Mae gyfres o englynion a briodolir i Guto’r Glyn mewn rhai llawysgrifau (cerdd 122) hefyd yn sôn am ffaling. Yn yr englynion hyn, anogir bardd o’r enw Rhys Grythor i ofyn am fantell gan yr Abad Dafydd o Abaty Maenan ac mae’r disgrifiad o’r fantell fel un trwchus a gwlanog yn cyfateb i’r disgrifiadau eraill a geir gan y beirdd o’r ffaling (cerdd 122.27-28). Meddir yn englyn olaf y gyfres:

 Cai doryn batsler cadeiriog, – cai glwyd 
 Rhag annwyd rhew gwnnog, 
 Cai win gwyn llei cân y gog, 
32Cai ffaling, drwyn cyffylog. 
Cei glogyn baetsler cadeiriog, cei gysgod
rhag annwyd rhew yn nannedd y gwynt,
cei win gwyn lle mae’r gog yn canu,
cei ffaling, ŵr a chanddo drwyn cyffylog.

(cerdd 122.29-32)


Gellir cael darlun manwl iawn o’r ffaling wrth graffu ar ddisgrifiadau’r beirdd a’r pwyslais a roddant ar ei chynhesrwydd, ei maint, ei lliw coch a’i hymylon addurnedig. Disgrifir hi gan Guto fel cwrlid o sgarlad a phwysleisir ei lliw coch: lliw pais draig, lliw criafon a lliw egroes (44, 60, 58 a 52). Mae planhigion aeron coch yn amlwg iawn yn ei ddisgrifiad ac wrth iddo sôn hefyd am y cerwyni lliw, sef y tybiau a ddefnyddid i lifo, mae’n bosibl ei fod yn awgrymu’r math o blanhigion a ddefnyddid i liwio tecstiliau yn goch yn y cyfnod hwn.
Guto wearing a red 'ffaling' (Irish mantle) at Cochwillan.
'Ffaling', Guto's mantle
Click for a larger image

Canmolir hefyd trwch a maint y fantell ynghyd â’r ffris tebyg i ffwr ar ei hymylon. Mae’r geiriau gra, saffrymwallt ffris, pân a’r disgrifiadau clog o fwng ceiliog a dail rhos yw dwyael fy rhodd oll yn cyfeirio at hyn. Darlunnir y Gwyddelod yn gwisgo’r ffaling gan arlunwyr o’r unfed ganrif ar bymtheg ac mae’r ymylon o ffris trwchus i’w gweld yn amlwg. Daeth hi’n wisg a oedd yn cael ei chyfrif yn draddodiadol Wyddelig. O’r herwydd, ceisiodd y Saeson wahardd y Gwyddelod rhag ei gwisgo gan fynnu ei bod yn wisg a hybai hunaniaeth y Gwyddelod a’i bod felly’n fygythiad i’r Saeson. Ond mae’n amlwg nad effeithiodd hynny lawer ar boblogrwydd y fantell a phrawf y darganfyddiadau archaeolegol i’r mentyll barhau’n boblogaidd yn Waterford, Dulyn a Drogheda yn bennaf.[6] Ceir cofnodion hefyd yn nodi i longau Gwyddelig allforio’r mentyll a theithio i Loegr, ac efallai i rai o borthladdoedd gorllewinol Cymru megis Llŷn fel yr awgryma’r bardd yn y gerdd hon (cerdd 53.35-8).[7] Cyfeiria Guto ddwywaith at y llong a ddaeth â’r fantell gan nodi mai cynnyrch y diwydiant gwlân Gwyddelig oedd hi:

Gwyddel a ddug i Elen 
We o wlân lliw ar lun llen; 
Dewis oedd, wedi’u dwys wau, 
Ar longaid o ffalingau. 
Daeth Gwyddel â brethyn gwlanog lliwgar
ar ffurf mantell i Elen;
hi oedd y fwyaf dewisol o blith llongaid o fentyll Gwyddelig
wedi eu gwau’n dynn.

(cerdd 53.35-8)


Roedd yn gôt ddelfrydol i fardd crwydrol wrth iddo deithio o lys un noddwr i’r llall. Am lun o Guto’r Glyn yn gwisgo’r fantell arbennig hon, gw. yr Animeiddiad o Gochwillan.


Bibliography

[1]: F. Piponnier & P. Mane, Dress in the Middle Ages (Yale, 1997), 132.
[2]: P. Lord, Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 2003), 260
[3]: D.F.Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwal a’i deulu (Aberystwyth, 2000), 24.53-4.
[4]: M. P. Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan Brydydd Hir (Aberystwyth, 2000), cerdd rhif 3.
[5]: Ymhellach ar y fantell Wyddelig gw. A.M. Jones, ‘“Val y Gwydel am y Ffalling”: Beirdd y Bymthegfed Ganrif a’r Fantell Wyddelig’, Llên Cymru, 32 (2009), 85-100.
[6]: T. O’Neill, Merchants and Mariners in Medieval Ireland (Dublin, 1987), 69-70
[7]: B. B. Thomas, Braslun o Hanes Economaidd Cymru (Caerdydd, 1941), 55.
<<<Peisiau      >>>Gwisgoedd eraill
Dyluniwyd y wefan gan Martin Crampin a'i datblygu y wefan gan Technoleg Taliesin Cyf. ac Alexander Roberts, Prifysgol Abertawe    

Administration